71588 - Operational Support Grade - HMP Berwyn Welsh Speaking (Prison support Role)
Id Job: 316a354
Id Job: 316a354
Contents
Location
About the job
Benefits
Things you need to know
Apply and further information
Location
About the job
Salary quoted is effective from September 22
Mae’r ffigurau cyflog a ddyfynnir ar gyfer wythnos waith 37 awr yn cynnwys lwfans gweithio oriau anghymdeithasol o 17% sydd wedi’i gynnwys yn y cyflog i adlewyrchu’r gofyniad i weithio shifftiau dros nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Ac unrhyw daliad atodol ar sail y farchnad na fydd ond yn cael ei dalu mewn lleoliadau penodol.
Oriau
Byddwch yn gweithio 37 awr yr wythnos ar gyfartaledd a bydd hyn yn cynnwys gweithio shifftiau nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau ar batrwm shifftiau treigl (mae’r dyddiau hyn yn cael eu hychwanegu at eich lwfans gwyliau). Bydd amlder y shifftiau nos yn amrywio ar gyfer pob Sefydliad a gellir ei drafod yn y cyfweliad. I gael enghraifft o amseroedd y shifftiau y gallech chi fod yn eu gweithio
Cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau
Byddwch yn cael eich defnyddio’n hyblyg i gyflawni rolau gweithredol ar draws y carchar yn ôl yr angen. Mae cyfrifoldebau, gweithgareddau a dyletswyddau yn debygol o gynnwys:
dyletswyddau wrth y gât/porth: sicrhau bod staff, ymwelwyr a cherbydau yn dod i mewn ac yn gadael yn ddiogel; chwilio staff, carcharorion, ymwelwyr, contractwyr a cherbydau; dosbarthu a chasglu allweddi/setiau radio staff
ystafell reoli: gweithredu system radio’r sefydliad a monitro teledu cylch cyfyng gan sicrhau bod pob gweithgaredd amheus yn cael ei riportio
ymweliadau: archebu ymweliadau; canfod pwy yw’r ymwelwyr a’u prosesu ar ôl iddynt gyrraedd, eu hebrwng os oes angen
sensor/gohebiaeth: monitro/cofnodi post a rhoi gwybod am unrhyw eitemau anghyfreithlon neu waharddedig (contraband), gan gynnal a diogelu tystiolaeth
dyletswyddau nos: sicrhau bod drysau celloedd yn cael eu cloi/diogelu a bod pob carcharor yn ddiogel a bod cyfrif amdanynt
derbynfa: helpu i gefnogi tasgau priodol yn y dderbynfa; tynnu lluniau carcharorion; casglu dogfennau ar gyfer y broses eiddo; chwilio/tynnu llun pelydr-x o eiddo carcharorion a pharseli sy’n dod i mewn; derbyn eitemau ar gyfer carcharorion a gwneud yn siŵr bod yr holl seliau’n gyflawn wrth storio eiddo
goruchwylio carcharorion: goruchwylio carcharorion yn ôl yr angen; cyfnewid dillad/eiddo carcharorion a chynorthwyo swyddogion gyda symudiadau llif rhydd
danfon bwyd: danfon a chasglu bwyd gyda throli, a allai gynnwys defnyddio cerbyd dosbarthu trydan
dyletswyddau gyrru: cludo carcharorion a’u hebrwng i’w cyrchfan yn y cerbyd cellog; casglu post o’r swyddfa ddidoli leol
galwadau ffôn: monitro’r system Rhifau Adnabod Personol (PIN), cadw cofnod o geisiadau PIN dros y Ffôn gan garcharorion; cwblhau’r holl waith papur perthnasol gan gadw trywydd archwilio o sgyrsiau; sicrhau bod rhifau cyfreithiol yn gyfreithwyr cofrestredig
gweithdrefnau a phrotocolau: deall a chydymffurfio â pholisïau cenedlaethol a lleol, ymateb yn briodol i roi gweithdrefnau brys ar waith a’r camau sy’n ofynnol mewn perthynas â digwyddiadau
Sut i wneud cais
Cam 1
Dywedwch wrthym amdanoch chi eich hun
Cliciwch ymgeisio a rhowch eich manylion personol ar ein ffurflen gais
Sefyll prawf byr ar-lein
Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau manwl ar sut i sefyll ein prawf ar-lein. Mae hwn yn asesiad seiliedig ar ymddygiad sy’n asesu a oes gennych chi’r cryfderau naturiol a’r dewisiadau ymddygiad priodol i fod yn unigolyn ar Raddfa Cymorth Gweithredol. Byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau bach sydd wedi’u llunio i ysgogi eich dewisiadau ymddygiad naturiol (e.e. sut rydych chi’n tueddu i wneud penderfyniadau yn naturiol). Er nad yw’r tasgau eu hunain wedi’u gosod yng nghyd-destun y rôl, maen nhw wedi’u llunio i arsylwi ar yr ymddygiadau sydd bwysicaf i’r rôl. Bydd hyn yn cymryd tua 40 munud i’w gwblhau, ond nid oes terfyn amser.
Does dim angen i chi fod yn chwaraewr gemau i wneud yn dda yn y prawf hwn. Rydyn ni’n chwilio am eich gallu naturiol i lwyddo yn y rôl.
Cyn i chi sefyll y prawf, cewch gyfle i ymarfer a pharatoi ar gyfer y prawf go iawn. Byddwch yn cael gwybodaeth a dolen i weld hwn a’r prawf ei hun ar ôl i chi wneud cais.
Cam 2
Os byddwch yn pasio’r prawf, byddwn yn eich gwahodd am gyfweliad.
Yn y cyfweliad, byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau canlynol o ran Proffil Llwyddiant -
Cyfathrebu a Dylanwadu
Cyflawni'n Gyflym
Rheoli Gwasanaeth o Safon
Cydweithio
Bydd y cyfweliad yn un cyfunol sy’n cynnwys ymddygiadau a phrofiad. Bydd yn gyfle delfrydol i ddweud mwy wrthym amdanoch chi eich hun, eich hanes gwaith neu eich profiadau personol, er mwyn i ni ddod i’ch adnabod yn well ac asesu pa mor addas fyddwch chi ar gyfer gwaith carchar. Bydd eich Cryfderau’n cael eu hasesu yn y cyfweliad hefyd, ond ni fydd y rhain yn cael eu rhannu ymlaen llaw.
Proffiliau Llwyddiant
Bydd Proffiliau Llwyddiant yn galluogi dull recriwtio tecach a mwy cynhwysol drwy ein galluogi i asesu’r ystod o brofiadau, galluoedd, cryfderau, ymddygiadau a sgiliau technegol/proffesiynol sydd eu hangen ar gyfer gwahanol swyddi. Mae’r dull hyblyg hwn o recriwtio yn canolbwyntio mwy ar ddod o hyd i’r ymgeisydd iawn ar gyfer y swydd benodol. I gael rhagor o wybodaeth am Broffiliau Llwyddiant i gefnogi eich cais cliciwch yma i gael rhagor o arweiniad.
Oherwydd pandemig Covid-19, rydyn ni’n cymryd camau i sicrhau diogelwch ymgeiswyr a staff. O ganlyniad, bydd rhai carchardai’n cynnal cyfweliadau fideo byw. Bydd yr holl fanylion yn cael eu hanfon atoch cyn eich cyfweliad.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru).
I gael rhagor o wybodaeth
Cynnig swydd: swydd wag ‘teilyngdod’
Swydd wag ‘teilyngdod’ yw hon. Os byddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael eich ychwanegu at restr teilyngdod yn seiliedig ar eich sgôr.
Pan fydd pob ymgeisydd wedi cwblhau’r asesiad, bydd y carchar yn cynnig swydd i’r rheini sydd â’r sgoriau uchaf yn gyntaf pan fydd swyddi’n dod ar gael.
Gallwch aros ar y rhestr teilyngdod am 12 mis. Ar ôl hyn, bydd angen i chi wneud cais eto.
Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru).
Manylion Lwfans
Yn ogystal, byddwch yn cael lwfans gwaith anghymdeithasol o 17% sydd wedi’i gynnwys i adlewyrchu’r gofyniad i weithio yn y nos, gyda’r nos ac ar benwythnosau. Mae’r lwfans wedi’i gynnwys yn y ffigurau cyflog a ddyfynnwyd.
Gweithio i’r Gwasanaeth Sifil
Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr
Mae’r cynllun ‘Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Lle Gwych i weithio i gyn-filwyr’ yn cynnwys cynllun gwarantu cyfweliad i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol i roi cyfleoedd i gyn-aelodau cymwys o’r Lluoedd Arfog sicrhau swyddi sy’n rhoi boddhad. Caniatáu i gyn-filwyr barhau i wasanaethu eu gwlad, a dod ag unigolion medrus iawn sydd ag ystod eang o brofiad i’r Gwasanaeth Sifil mewn amgylchedd sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eich gwasanaeth blaenorol yn y Lluoedd Arfog.
I gael rhagor o fanylion am y cynllun a’r gofynion o ran cymhwysedd, ewch i:
https://www.gov.uk/government/news/making-the-civil-service-a-great-place-to-work-for-veterans
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y nodir yn Comisiwn y Gwasanaeth Sifil. Os ydych chi’n teimlo bod y broses recriwtio wedi torri’r egwyddorion recriwtio, gallwch gyflwyno cwyn ffurfiol yn y drefn ganlynol:
1- I Shared Service Connected Ltd (0845 241 5358 (Llun-Gwener 8am - 6pm) neu drwy e-bost i Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com);
2- I Wasanaeth Adnoddau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder (resourcing-services@justice.gov.uk);
3- I Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (manylion ar gael )
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl o bob cefndir ac yn anelu at gael gweithlu sy’n cynrychioli’r gymdeithas ehangach rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gyflogwr o ddewis. Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth, cynhwysiant a lles ac yn ceisio creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo eu bod yn perthyn. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gwneud hyn ewch i: https://www.gov.uk/government/organisations/ministry-of-justice/about/equality-and-diversity.
Cymorth anabledd
Mae'r Gwasanaeth Sifil yn croesawu amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi ymrwymo i roi cyfle i bawb ddangos eu sgiliau, eu talent a’u galluoedd, drwy wneud addasiadau i bob elfen o’r broses recriwtio ac yn y gweithle. Gall y Weinyddiaeth Gyfiawnder gynnig cyfweliad i ymgeiswyr anabl sy’n bodloni’r meini prawf dethol sylfaenol, ac eithrio mewn nifer cyfyngedig o ymgyrchoedd.
Byddwch yn gallu gwneud cais am addasiadau rhesymol i’r broses recriwtio yn y ffurflen gais. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch i lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â Thîm Ymholiadau Recriwtio SSCL.
Nodwch, os gwelwch yn dda - rydych chi’n gwneud cais am ymgyrch clwstwr ac, o’r herwydd, mae’n bosib y cewch eich dyrannu i unrhyw un o’r carchardai a restrir yn yr hysbyseb hwn.
Disgrifiad Swydd Cymraeg
Berwyn Welsh.docx (1).pdf – 99KB
Y Gymraeg yn ddymunol neu’n hanfodol
Hanfodol
Rhaid i ddeiliad y swydd allu cyflawni holl agweddau llafar y swydd yn hyderus yn Saesneg neu yn y Gymraeg (pryd y nodir hynny yng Nghymru).
Manylion Lwfans
Yn ychwanegol, byddwch yn cael lwfans gwaith anghymdeithasol o 17%. Mae’r hwn wedi’i gynnwys yn y ffigurau cyflog a ddyfynnwyd.
We'll assess you against these behaviours during the selection process:
Benefits
Things you need to know
Dyddiad Cau: Gorffennaf 23rd Mawrth 2023 23:55pm
Dyddiadau Cyfweliadau: I’w cadarnhau
Os oes angen cymorth arnoch, ffoniwch 0845 241 5359 (o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 8am - 6pm) neu anfonwch e-bost at Moj-recruitment-vetting-enquiries@gov.sscl.com Nodwch gyfeirnod y swydd os gwelwch yn dda - 71588
This job is broadly open to the following groups:
Apply and further information
Job contact :
Recruitment team :