Cydlynydd Masnachol

Id Job: 3172324

🏒 On-site
πŸ’Ό Gower College Swansea
πŸ“ Swansea, Wales
πŸ•’ Today
πŸ’° 39508 – 44274 GBP ANNUAL
Advertisement

Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Darparu arweiniad, cyfarwyddyd a chefnogaeth i dîm o staff Cyngor ac Arweiniad, Gwasanaeth Cwsmer, Canolfan Manwerthu a Chyswllt gan gydlynu gweithgarwch i sicrhau darpariaeth o ansawdd uchel i ddysgwyr a chyflogwyr.

  • Amser-Llawn, 37 awr yr wythos
  • Parhaol
  • Cyflog £39,508 - £44,274 per annum
  • Llys Jiwbilî, Abertawe (SA5 4HB)

Cyfrifoldebau Allweddol:

  • Arwain, ysgogi ac ysbrydoli tîm o Hyfforddwyr, Aseswyr Tiwtoriaid a IV(au), a chynnal cyfarfodydd rheolaidd sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm/pwnc
  • Cyflawni targedau Dysgu Seiliedig ar Waith (Cymru a Lloegr), Sgiliau ar gyfer Diwydiant 2 a thargedau masnachol a gytunir arnynt gyda’r Rheolwr Llinell
  • Darparu a chadw llwyth achosion dysgwyr yn unol â chlystyrau’r cwricwlwm
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o recriwtio, croesawi a goruchwylio staff newydd

Amdanoch chi:

  • Cymhwyster dysgu ac addysgu e.e. TAR neu’n barod i weithio tuag at y cymhwyster
  • Gwybodaeth fasnachol, profiad a dealltwriaeth o’r diwydiant, gan gynnwys anghenion hyfforddiant
  • Gwybodaeth am weithio gyda’r farchnad lafur i nodi a llywio cyfleoedd busnes newydd

Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Parcio am ddim
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.


Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

Sponsored

Apply for this Job

Fill in the details below and we'll get back to you.
πŸ“„
Choose a file… PDF, DOC or DOCX β€” max 5 MB
πŸ–ΌοΈ
Choose a photo… JPG, PNG or GIF β€” max 2 MB
Advertisement