Hyfforddwr - Nwy / Plymwaith ac Ynni Adnewyddadwy

Gower College Swansea ↗
Swansea, Wales, Wales £31k – £37k / yr Full Time 🇬🇧 United Kingdom Posted: 2026-07-03
SPONSORED
Full Job Description

Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

  • Amser-Llawn - 37 awr yr wythnos
  • Parhaol
  • £31,498 - £36,642 per annum
  • Abertawe, SA2

Cyfrifoldebau Allweddol:

Hyfforddi ac asesu dysgwyr o fewn y Sector Gwasanaethau Adeiladu Mecanyddol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Plymwaith a Gwresogi
  • Gosod a Chynnal a Chadw Nwyon domestig a masnachol gan gynnwys asesiadau ACS a Llwybrau Dysgu Rheoledig
  • Technolegau Adnewyddadwy gan gynnwys Pympiau Gwres, Solar Thermol, Adfer Gwres Mecanyddol ac Awyru
  • Darpar gyfleoedd megis Hydrogen

Amdanoch chi:

  • Lefel 3
  • neu gymhwyster cyfwerth mewn Gosod neu Gynnal a Chadw Nwy neu Plymwaith / Gwresogi ac Awyru
  • Ardystiad ACS Nwy

Buddion:

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd, a gwyliau banc, hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig
  • Cynllun beicio i’r gwaith
  • Mynediad i hyfforddwr ffitrwydd staff/maethegydd/dosbarthiadau ymarfer corff
  • Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chyfraniad cyflogwr o 21% ar gyfartaledd (2023)
  • Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).

🔍 Find More Like This

Browse All Jobs Similar Roles →
SPONSORED

📋 Job Overview

Company Gower College Swansea
Location Swansea, Wales, Wales
Salary £31k – £37k / yr
Job Type Full Time
Posted 2026-07-03
Deadline 2026-09-03
Country 🇬🇧 United Kingdom

🚀 Ready to Apply?

Join thousands of professionals who found their dream job through Jobflixs.

📬

Get Job Alerts

Be first to hear about new Adnewyddadwy roles.