Seicolegydd Addysg
Id Job: 3176784
Id Job: 3176784
Mae gan y seicolegydd addysg yn y Tîm Rhieni a Mwy rôl wrth gymhwyso seicoleg i lywio darnau o waith personol gyda rhieni a'u babanod a'u plant bach ledled Caerdydd.
Mae'r seicolegydd addysg yn gwneud arsylwad ac asesiad cychwynnol o gryfderau, amgylchiadau a meysydd newid posibl y rhiant a'r plentyn, yn ystod ymweliad cychwynnol â'r cartref. Mae targedau personol ar gyfer newid yn cael eu cydlunio â'r rhiant yn ystod y sesiwn hon ac mae'r darn o waith personol wedi'i lunio gan y Seicolegydd Addysg a’r ymarferydd Rhieni a Mwy. Mae’r ymarferydd yn cyflawni'r ymyrraeth yng nghartref y teulu gyda goruchwyliaeth reolaidd gan y Seicolegydd Addysg.
Prif rôl y Seicolegydd Addysg fydd:
Cewch eich cefnogi gyda chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus. Byddwch yn cael ffôn, cyfrifiadur personol a'r adnoddau a'r cymorth bydd eu hangen arnoch i deimlo'n hyderus ac yn ddiogel yn eich rôl.
Mae nifer ein staff sy’n aros gyda ni yn uchel ac mae ein cydweithwyr yn dweud:
"Fel seicolegydd, mae cyfrannu at broses newid dros amser yn hynod foddhaol. Mae gallu treulio amser yn cael trafodaethau manwl gan ddefnyddio fframwaith datrys problemau, cynllunio ymyriadau ac yna adolygiad parhaus a phrofion damcaniaethol, yn caniatáu amser i feddwl am seicoleg a'i rhoi ar waith.
"Ar ôl gweithio fel Seicolegydd Addysg ysgol am nifer o flynyddoedd, roedd symud i weithio mewn cyd-destun gwahanol yn risg, ond mae'r ethos a'r cymorth sefydliadol yn gadarnhaol dros ben. Mae'r cyfleoedd DPP yn rhagorol a rhoddir amser ar gyfer twf a datblygiad."
"Mae gweithio yn y tîm cefnogol hyfryd hwn yn rhoi cyfle i mi fel Seicolegydd Addysg i roi seicoleg ar waith bob dydd, a hynny ar bob lefel wahanol, yn ogystal â gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd."

Rydym yn chwilio am seicolegydd cymwys sydd wedi’i gofrestru gyda’r CPIG, sy’n bodloni’r canlynol:
Rydym yn hapus derbyn ceisiadau gan Seicolegwyr Addysg dan Hyfforddiant a fydd yn cymhwyso yn 2023, ac o Seicolegwyr Addysg profiadol a allai fod yn chwilio am rôl neu secondiad proffesiynol newydd. Bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i fodloni anghenion teuluoedd sy’n gweithio.
Yr ystod cyflog yw Soulbury A 1-6 ynghyd â hyd at 3 SPA.
Cyfweliadau yn digwydd Gorffennaf 24ain.
Os hoffech drafod y swydd cyn gwneud cais, rydym yn croesawu trafodaeth! Cysylltwch â Sarah Fitzgibbon (Uwch Seicolegydd Addysgol a Rheolwr y Gwasanaethau Rhianta) sarah.fitzgibbon@caerdydd.gov.uk
Swydd dros dro yw hon tan 31 Mawrth 2024. Mae’r swydd yn amodol ar gael arian grant gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r swydd hon yn amodol ar Wiriadau Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sy'n agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Mae ein gwasanaethau a'n hysgolion wedi ymrwymo i amddiffyn a sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn agored i niwed, a byddant yn rhoi camau ar waith i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy'n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a phob ysgol.
Dylai ymgeiswyr mewnol sy’n dymuno gwneud cais am y swydd hon ar secondiad gael caniatâd cyn ymgeisio trwy lenwi ffurflen SEC1 (4.C.081). Dim ond y Cyfarwyddwr / Dirprwy Gyfarwyddwr / Prif Swyddog perthnasol neu uwch swyddog arall a enwebwyd, nad ydynt ar raddfa is na RhG2, neu’r Pennaeth / Corff Llywodraethu yn achos staff ysgolion, sy’n gallu cymeradwyo ceisiadau.
Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni chaiff ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Nid yw’r Cyngor yn derbyn CVs. Wrth gwblhau’r adran gwybodaeth ategol ar eich cis, sicrhewch eich bod yn cyfeirio at yr isod sydd ar ein gwefan:
Gwybodaeth bwysig sydd angen ei darllen er mwyn cwblhau eich cais:-
Gwybodaeth Ychwanegol:-